Mae cynllun Alison yn ymwneud â hunanofal, ymwybyddiaeth ofalgar, natur a chwmniaeth. Trwy ddefnyddio cŵn a’r byd natur yn flaengar yn y dyluniad, y nod yw arddangos pwysigrwydd caredigrwydd, tosturi a gofal dros ein hunain a’n hamgylchedd gan ddefnyddio darluniau o deuluoedd (a chwn!) yn ymarfer hunanofal. Mae’r artist wedi cynnwys digon o siapiau a delweddau wedi’u tynnu gyda marcwyr acrylig Du fel bod digon o ardaloedd i’w lliwio; y canlyniad yw campwaith lliwgar, cydweithredol.