Antur ddysgu gyda’r Dogs Trust a Snoopy
Ochr yn ochr â’r prif lwybr, mae ein rhaglen ddysgu’n gwahodd ysgolion a sefydliadau ieuenctid i gymryd rhan drwy fabwysiadu a dylunio eu cerflun Snoopy eu hunain. Bydd eich ffrindiau ffyddlon yn cael eu harddangos y tu mewn i leoliadau ar draws y ddinas, i’w mwynhau gan y sawl a wnaeth eu creu a’r cyhoedd yn ehangach.
Caiff Caerdydd ei thrawsnewid yn ddigwyddiad celf am ddim trwy’r ddinas, a fydd yn y pen draw yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd i’r ddinas a’r rhanbarth.
Yn dilyn y datgysylltu a’r cadw pellter yn 2020, pa ffordd well i ddod â’n cymunedau yn ôl at ei gilydd na thrwy gydweithio i greu rhywbeth rhyfeddol a fydd yn codi gwên ar wynebau trwy’r ddinas? Bydd yn annog preswylwyr i ail-ystyried trysorau cudd eu dinas, hybu eu lles corfforol a meddyliol a chreu undod trwy ein hardal.