Mae Taith trwy Trethomas yn dathlu ardal leol pentref Trethomas, y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Dathlu’r dreftadaeth, tirweddau, adeiladau a phobl sy’n helpu i siapio Trethomas. Gan gynnwys y gwaith mwyngloddio a fu unwaith yn llewyrchus, yr hen reilffordd a thaith yr afon Rhymni. Mae’r cerflun hefyd yn cyfleu gwerthoedd a blaenoriaethau Ysgol Gynradd Ty’n y Wern; llwybrau diogel i’r ysgol a’r clybiau Eco yn cymryd rhan mewn plannu coed yn y gymuned. Mae olion bysedd pob disgybl yn cyfleu’r rhai sy’n dal dyfodol ein cymuned.