Mae Rainbow Dash yn symbol o obaith ac addewid am amseroedd gwell. Roedd y plant eisiau defnyddio cymaint o liwiau llachar ag y gallent i greu ffrwydrad o liw. Bu’r holl blant o’r Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn cymrud rhan yn yr addurno. Crewyd gwaelod y cerflun mewn lliwiau’r enfys gan ddefnyddio olion bysedd y plant.