Cynlluniwyd Elliot i adlewyrchu harddwch a diwylliant hanesyddol ardal leol Ysgol Gynradd y Rhosyn Gwyn. Glofa’r Elliot oedd enw’r pwll glo yn Nhredegar Newydd ac mae sawl atgof o’r lofa yn y pentref heddiw, megis Amgueddfa’r Ty Weindio a phont droed yr olwyn Weindio. Mae’r pentref wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd hardd, bywyd gwyllt a golygfeydd.