Mae cerflun Ysgol Gynradd Cwmfelin yn dathlu hanes hen gymuned lofaol Maesteg, ei nodweddion daearyddol naturiol darluniadol, ynghyd ag atgofion am ei gorffennol diwydiannol llewyrchus. Mae’r dyluniadau a ddewiswyd gan y disgyblion yn adlewyrchu harddwch, unigrywiaeth ac amrywiaeth Cwm Llynfi – ein Cynefin.