Mae Cerddwn Ymlaen yn dathlu’r iaith Gymraeg, y gymuned a’r dirwedd o amgylch Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o’n hanes a phwy ydyn ni. Trwy ddefnyddio’r artist Catrin Williams fel eu hysbrydoliaeth mae’r ysgol wedi portreadu sut mae’r iaith yn llifo’n naturiol i’r gymuned yng Nghaerffili ac nid rhywbeth sy’n cael ei gadw o fewn gatiau’r ysgol yn unig. Dyma ein gorffennol, presennol a dyfodol. Cerddwn ymlaen.