Mae Celt y Cymro yn cynrychioli Teulu o Ysgolion Clwstwr Llangynwyd. Yn ein Clwstwr o ysgolion mae; • Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, • Ysgol Calon y Cymoedd, • Ysgol Cynwyd Sant, • Ysgol Ferch o’r Sger a, • Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd Mae’r Clwstwr o ysgolion gyfrwng Cymraeg yn gwasanaethu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Eu nod yw sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion dwyieithog rhugl yn ogystal â datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’u diwylliant a’u hetifeddiaeth fel Cymron. Cyfunwyd syniadau o’r Clwstwr cyfan yn un dyluniad wedi’i beintio gyda artist lleol. Mae Celt y Cymro yn cynnwys nodweddion Cymreig fel y ddraig goch a lliwiau’r faner.