50 mlynedd
Rydym yn gyfarwydd â Chymru; mae gennym Ganolfan Ailgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers dros 50 mlynedd.
Ni yw elusen lles cŵn fwyaf y Deyrnas Unedig gydag 20 o Ganolfannau Ailgartrefu ac rydym yn rhoi cariad, gofal a’n sylw i gyd i dros 14,000 o gŵn bob blwyddyn. Rydym yn gyfarwydd â Chymru; mae gennym Ganolfan Ailgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers 50 mlynedd, ond rydym yn edrych ymlaen yn arw at agor ein 21ain canolfan ailgartrefu yng Nghaerdydd yn 2021 a fydd yn ein galluogi i ofalu am 1,000 o gŵn ychwanegol bob blwyddyn a chreu swyddi a chyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned.
Mae A Dog’s Trail yn antur newydd gyffrous i’r Dogs Trust ac allwn ni ddim aros at gael gweithio gyda chi. Nod y llwybr yw codi cyllid sylweddol tuag at ein gwaith er mwyn gallu parhau i ddarparu ein gwasanaethau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf. Ond rydym hefyd yn gwybod y bydd hi’n arddangosfa drawiadol, yn dod â llawer o gymunedau at ei gilydd drwy greu ac arddangos cerfluniau ar hyd llwybr drwy’r ddinas – arddangosfa go iawn o Gaerdydd fel lle i ymweld ag ef, ei garu a dinas i fyw, gweithio a chwarae ynddi.
Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, disgwylir i’r gwaith ar gyfer canolfan ailgartrefu newydd y Dogs Trust yng Nghaerdydd gael ei gwblhau yn 2021. Bydd y Ganolfan Ailgartrefu ar Nettlefold Road yn Sblot, ddim ond dwy filltir o Fae Caerdydd, yn helpu hyd at 1,000 o gŵn y flwyddyn yn y ddinas ac yn y cyffiniau.
Casglwyd dros 5,000* o gŵn crwydr gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2018 yn unig. Bydd y Dogs Trust Caerdydd yn gofalu am gŵn crwydr, cŵn wedi’u gadael a’u troi allan bob blwyddyn, gan helpu’r broblem cŵn crwydr yn y ddinas a’r cyffiniau yn sylweddol a rhoi cyfle arall i fod yn hapus i’r cŵn sy’n dod i’w gofal.
Mae canolfan ailgartrefu 21ain y DU yr elusen wedi’i chynllunio gyda lles cŵn yn greiddiol i’w dyluniad. Bydd y cyfleusterau ailgartrefu yn cynnwys:
Mae’r Dogs Trust yn mynd i drafferth enfawr i helpu cŵn crwydr a chŵn a adawyd ac i adsefydlu’r cŵn sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol, ac felly y bydd hi yng Nghanolfan Ailgartrefu Caerdydd hefyd. Gyda Chynghorwyr Hyfforddiant ac Ymddygiad ymroddgar, ystafell filfeddygol lawn, a hyd yn oed uned hydrotherapi/ffisiotherapi, bydd cŵn o bob lliw a llun yn cael cynnig yr holl gymorth mae ei angen arnynt i ddod o hyd i gartref newydd.
Mae’r elusen yn gobeithio y bydd y Ganolfan Ailgartrefu newydd yn y pen draw yn creu hyd at 50 o swyddi newydd yn amrywio o Reolwyr, Gofalwyr Cŵn, staff Hyfforddiant ac Ymddygiad a staff cynnal a chadw.
Rydym yn gyfarwydd â Chymru; mae gennym Ganolfan Ailgartrefu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers dros 50 mlynedd.
Rydym yn edrych ymlaen yn arw iawn ati agor ein canolfan ailgartrefu yn yr 21ain DU yng Nghaerdydd a fydd yn ein galluogi i ofalu am hyd at 1,000 o gŵn bob blwyddyn.
Mae ein Tîm Addysg wedi bod yn cyflwyno gweithdai mewn ysgolion ledled de Cymru ers dros 15 mlynedd, yn addysgu plant am ymddygiad diogel o amgylch cŵn.
Nid dim ond cŵn rydyn ni’n eu caru ond pobl sy’n caru cŵn hefyd – ac felly mae llawer o’n gwaith yn canolbwyntio ar helpu pobl. Mae ein prosiectau allgymorth yn cynnig cymorth i’r rhai sydd mewn argyfwng tai, ac yn cynnig lle diogel i gŵn sy’n ffoi cartrefi lle cânt eu cam-drin tra mae eu perchnogion yn chwilio am loches.
Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch ein helpu a’n cefnogi, o aelodaeth i godi arian a gwirfoddoli. Dysgwch sut y gallwch helpu heddiw!