
Mae Dogs Trust wedi cyhoeddi mai dim ond ambell gerflun Snoopy enfawr sydd ar gael i’w noddi erbyn hyn. Byddant yn ymddangos ar lwybr celf cyhoeddus mwyaf erioed de Cymru, A Dog’s Trail with Snoopy, sy’n codi arian ar gyfer yr elusen.
Bydd A Dog’s Trail with Snoopy, mewn cydweithrediad â chynhyrchwyr creadigol, Wild in Art, yn arddangos 40 o gerfluniau Snoopy mawr ledled Caerdydd, Caerffili a Phorthcawl am 8 wythnos o 8 Ebrill i 5 Mehefin 2022.
Dim ond naw cerflun Snoopy enfawr sydd ar ôl i’w noddi, a dim ond pythefnos sydd ar ôl i sefydliadau Cymru ymuno â’r ymgyrch.
Yn 1.5 metr o uchder, mae’r cerfluniau sy’n weddill wedi’u trawsnewid yn waith celf anhygoel, o ddyluniadau wedi’u hysbrydoli gan flodau a gofod i gelf haniaethol a chreaduriaid chwedlonol, sy’n golygu y bydd busnesau’n cael cyfle unigryw i godi eu proffil a gwneud eu marc ar fath arbennig o dudalen wag.
Yn ogystal â gwelededd brand drwy’r ap swyddogol A Dog’s Trail, mae’r manteision ychwanegol yn cynnwys CSR a gwelededd ledled y ddinas drwy gydol y gwanwyn. Bydd y llwybr yn dod â lliw i strydoedd de Cymru wrth i’r cerfluniau Snoopy fynd am dro o amgylch prifddinas Cymru a threfi cyfagos Caerffili a Phorthcawl. Drwy noddi cerflun Snoopy, bydd sefydliadau hefyd yn cefnogi canolfannau ailgartrefu’r Dogs Trust ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd yn uniongyrchol.
Dywedodd Rebecca Staden, Rheolwr Prosiect A Dog’s Trail with Snoopy: “Mae A Dog’s Trail with Snoopy yn gyfle gwych i chi godi ymwybyddiaeth o’ch busnes ac mae llawer o ffyrdd cyffrous o elwa ar gydweithrediad gyda ni tra’n cefnogi gwaith anhygoel Dogs Trust. Drwy ddod am dro gyda ni, byddwch yn arwain y gwaith o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, a chynyddu ymgysylltiad cymunedol.
“Bydd pob cerflun Snoopy yn cael ei greu’n fedrus, gan ddangos y cyfoeth o dalent artistig sydd ar gael yn y rhanbarth a thu hwnt. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd noddi ar gael felly os oes gennych ddiddordeb, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”
Ar ddiwedd y digwyddiad, bydd pob cerflun yn cael ei arwerthu i godi arian at y Dogs Trust i’w galluogi i barhau i ofalu am y cŵn achub sydd dan eu gofal, ac i roi’r hyn sydd ei angen arnyn nhw nes iddyn nhw gael eu mabwysiadu.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i adael eich marc ar gerflun Snoopy ewch i www.adogstrail.org.uk/sponsors