Mae’r Dog’s Trust, sef elusen lles cŵn fwyaf y DU wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhyddhau brîd o gerfluniau Snoopy i ddinas Caerdydd yr hydref nesaf. Mae’r elusen wedi ymuno â Peanuts, i ddod â llwybr celf cyffrous newydd i’r ddinas, sy’n cynnwys y corhelgi byd-enwog. Bydd y llwybr sy’n croesawu cŵn yn mynd ag ymwelwyr ar hyd rhai o’r llwybrau mynd â chŵn am dro yn y ddinas er mwyn codi ymwybyddiaeth ac arian dros yr elusen – a fydd yn fuan yn agor canolfan ailgartrefu yn y ddinas.
Bydd Llwybr Cŵn gyda Snoopy, ar y cyd â’r cynhyrchwyr creadigol. Wild in Art, yn mynd ag ymwelwyr sydd â dwy goes a phedair coes ar lwybr drwy ganol prifddinas Cymru, am 10 wythnos, yn ystod hydref 2021. Bydd y llwybr yn cynnwys cerfluniau unigryw a lliwgar o Snoopy a ddyluniwyd gan artistiaid lleol a chenedlaethol.
Caiff pob cerflun ei noddi gan fusnes neu unigolyn a bydd ganddo ei hanes ei hun i’w adrodd, llawer ohonynt yn arddangos cyfoeth talent artistig Caerdydd, wrth ddathlu bywiogrwydd, diwylliant a’r creadigrwydd sydd gan y ddinas i’w gynnig. Ar ddiwedd y llwybr, caiff y cerfluniau Snoopy eu harwerthu i godi arian hanfodol ar gyfer y Dogs Trust.
Bydd Llwybr Cŵn gyda Snoopy yn cysylltu partneriaid corfforaethol, cyhoeddus a chymunedol o gwmpas y ddinas, gan ddarparu digwyddiad cyfranogi torfol ar y cyd, sy’n creu hwb cymdeithasol, lles ac economaidd i’r ddinas ac i’r gymuned.
Gwahoddir busnesau, unigolion a sefydliadau sydd eisiau gwybod mwy am sut y gallant greu eu hargraff ar gi mwyaf eiconig y byd a noddi’r llwybr celf Snoopy cyntaf erioed i lansiad digidol ddydd Mercher 11 Tachwedd o 4.00-5.00pm.
Dywedodd Owen Sharp, Prif Weithredwr y Dogs Trust:
“Mae A Dog’s Trail with Snoopy yn antur newydd gyffrous i’r Dogs Trust. Alla’ i ddim aros i weld y Snoopy eiconig yn dod yn fyw, gan ddod â lliw a hwyl i strydoedd Caerdydd.
“Rydyn ni’n helpu cŵn yng Nghymru ers mwy na 50 mlynedd trwy ein presenoldeb ym Mhen-y-bont ar Ogwr; ond rydym wedi’n cyffroi yn arbennig i agor ein 21ain canolfan ailgartrefu yng Nghaerdydd yn 2021 a fydd yn ein galluogi i ofalu am 1,000 ychwanegol o gŵn bob blwyddyn a darparu swyddi a chyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned.
“Nod y llwybr yw codi punnoedd i gŵn fel y gallwn barhau i wella lles cŵn yng Nghymru. Rydym yn gwybod y bydd yn arddangosfa ysblennydd i bawb sy’n ymuno ac rydyn ni wedi ein cyffroi i wneud A Dog’s Trail yn etifeddiaeth barhaol, yn union fel Snoopy ei hun!”
Mae Wild in Art wedi dod â chymunedau ynghyd gyda’i lwybrau cerfluniau mewn dinasoedd o gwmpas y byd. Eu llwybr celf cyntaf yng Nghaerdydd oedd Snowdogs Tails yng Nghymru yn 2017. Hyd yn hyn, mae ei ddigwyddiadau wedi cyfrannu mwy na £15 miliwn i elusennau a £2.4 miliwn i gymunedau creadigol.
Dywedodd Charlie Langhorne, Rheolwr Gyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Wild in Art:
“Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Gaerdydd a gweithio gyda’r Dogs Trust a Peanuts i greu A Dog’s Trail with Snoopy – ein llwybr cyntaf erioed sy’n croesawu cŵn.
“Mae ein digwyddiadau wedi’n dylunio i ddod â mwynhad celf gyhoeddus i bawb wrth gynnig ffyrdd newydd i bobl fforio yn eu hardal leol, ond mae arnom angen cefnogaeth busnesau lleol i beri iddo ddigwydd.
“Mae noddi cerflun Snoopy yn gyfle rhagorol ac mae llawer o ffyrdd cyffrous o elwa ar gydweithio gyda ni wrth gefnogi gwaith anhygoel Dog’s Trust.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury:
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu A Dog’s Trail with Snoopy i Gaerdydd a helpu i greu digwyddiad celf gyhoeddus a fydd â’r potensial i godi llawer o arian i’r Dog’s Trust, wrth ddathlu’r creadigrwydd a’r gymuned wrth galon ein dinas. Mae llwybrau celf blaenorol wedi dod â mwy na 350,000 o ymwelwyr i’r ddinas ac wedi cynhyrchu £10 miliwn i’r economi leol. Mae digwyddiadau’r byd wedi sicrhau bod 2020 yn flwyddyn anodd i ni i gyd felly mae’r syniad o A Dog’s Trail yn goleuo strydoedd y ddinas wrth i ni symud tua diwedd 2021 yn rhywbeth arbennig i edrych ymlaen ato.
“Bydd A Dog’s Trail yn cynnig i bawb, â dwy goes ac a phedair coes, ddiwrnod allan gwych a bydd yn peri i bobl fforio yn rhannau o’r ddinas nad ydynt efallai wedi ymweld â nhw o’r blaen. Mae’n ffordd wych o godi arian ac i arddangos Caerdydd fel lle i ymweld â hi, ac i garu, byw , gweithio a chwarae ynddi.”
Mae personoliaethau chwaraeon Cymru Elinor Barker MBE a Gareth Thomas hefyd yn rhoi eu cefnogaeth i A Dog’s Trail ac maent yn helpu i lansio’r llwybr celf trwy fideo mewn digwyddiad lansio rhithwir ym mis Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru am y digwyddiad lansio digidol ddydd Mercher 11 Tachwedd, cysylltwch â thîm A Dog’s Trail ar trailsponsors@dogstrust.org.uk neu am wybodaeth arall ewch i www.adogstrail.org