Bydd dros 50 o gerfluniau Snoopy enfawr yn addurno canol y ddinas, pob un gyda dyluniad unigryw, a chyda’i gilydd byddant yn creu llwybr diogel, am ddim, hwyliog a chyfeillgar i deuluoedd. Ar ddiwedd y llwybr, caiff y cerfluniau Snoopy eu gwerthu i godi arian at y Dogs Trust, ein canolfan ailgartrefu newydd yng Nghaerdydd a’r 14,000 o gŵn yr ydym yn gofalu amdanynt bob blwyddyn yn y DU.
Mae angen trawsnewid pob un o’n cerfluniau Snoopy yn waith celf ac rydym wrthi’n chwilio am gyflwyniadau gan y gymuned greadigol leol, ranbarthol a’r tu hwnt. Mae croeso i artistiaid newydd a phrofiadol anfon dyluniadau, mewn unrhyw gyfrwng, o’r traddodiadol i gyfryngau newydd, celf gain, graffiti, darlunio neu fosaig. Bydd dyluniadau ar y rhestr fer cyn cael eu cyflwyno i’n noddwyr. Bydd y rhai a ddewisir wedyn yn cael eu comisiynu ac ar ôl eu cwblhau bydd pob artist yn cael ffi gomisiwn o £900, yn ogystal â’r cyfle i arddangos ei waith fel rhan o’r digwyddiad rhyfeddol hwn.
Beth bynnag yw eich ffurf gelfyddydol, byddwn yn croesawu eich syniad i ychwanegu hwyl, creadigrwydd ac arloesedd at lwybr cyntaf erioed Snoopy yn y DU.
We are accepting artist design submissions until 23:59 on 1st July 2021. Don’t miss out on your opportunity to showcase your work on the worlds most-loved dog, to a large scale audience. For all details please refer to the Artist Information Pack or for further information get in touch via trailartists@dogstrust.org.uk
Download the Artist Information Pack and Snoopy Design Templates below.