Wyt ti’n barod i ddilyn dy drwyn ac archwilio De Cymru gyda’ch holl synhwyrau?
‘Lawrlwythwch ap Llwybr y Cŵn’
Diolch i’n noddwyr hael am gyfrannu tuag at Llwybr y Cŵn!
Diolch i’n hartistiaid anhygoel sydd wedi cynhyrchu cerfluniau Snoopy mor syfrdanol!
Diolch i’n pobl ifanc dawnus a’n hysgolion sydd wedi dylunio cerfluniau bach Snoopy mor ysbrydoledig!
I ddathlu canolfan ailgartrefu cŵn newydd y Dogs Trust yn dod i Gaerdydd, bydd A Dog’s Trail, llwybr celf cyhoeddus am ddim yn ymlwybro trwy’r ddinas yn nhymor y gwanwyn 2022. Am 10 wythnos bydd strydoedd y ddinas, Bae Caerdydd a’r parciau yn dod yn gartref i gyfres o gerfluniau Snoopy wedi’u haddurno’n gain, pob un wedi’i gynllunio gan artistiaid, dylunwyr a darlunwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol – rhai’n ffefrynnau adnabyddus a rhai’n dalent newydd.
Caiff pob cerflun ei noddi gan fusnes neu unigolyn a bydd ganddo ei hanes ei hun i’w adrodd; bydd llawer yn dangos cyfoeth talent artistig Caerdydd, wrth ddathlu’r wefr, y diwylliant a’r creadigrwydd sydd gan y ddinas i’w cynnig.
Byddwch yn rhan o’r digwyddiad unigryw hwn gyda chi mwyaf eiconig y byd, a helpu i godi arian hanfodol ar gyfer y Dogs Trust a’n Canolfan Ailgartrefu ddiweddaraf yng Nghaerdydd, yn ogystal â sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylweddol i’r ddinas.
Mae A Dog’s Trail yn antur newydd gyffrous gan y Dogs Trust. Nod y llwybr yw codi cyllid sylweddol tuag at ein gwaith er mwyn gallu parhau i ddarparu ein gwasanaethau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf. Ond rydym hefyd yn gwybod y bydd hi’n arddangosfa drawiadol, yn dod â llawer o gymunedau at ei gilydd drwy greu ac arddangos cerfluniau ar hyd llwybr drwy’r ddinas – arddangosfa go iawn o Gaerdydd fel lle i ymweld ag ef, ei garu a dinas i fyw, gweithio a chwarae ynddi.
Wrth i gymunedau ledled y byd barhau i ddelio ag effeithiau 2020, mae A Dog’s Trail yn ddigwyddiad arbennig a fydd yn hybu iechyd a lles, yn dod â busnesau a chymunedau at ei gilydd ac yn helpu i hybu’r economi ranbarthol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud i hyn ddigwydd.